Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans)

Rhyfel

Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng
A Duw ar drai ar orwel pell;
O'i ôl mae dyn, yn deyrn a gwreng,
Yn codi ei awdurdod hell.

Pan deimlodd fyned ymaith Dduw
Cyfododd gledd i ladd ei frawd;
Mae swn yr ymladd ar ein clyw,
A'i gysgod ar fythynnod tlawd.

Mae'r hen delynau genid gynt
Ynghrog ar gangau'r helyg draw,
A gwaedd y bechgyn lond y gwynt,
A'u gwaed yn gymysg efo'r glaw.






Hedd Wyn, nacido Ellis Humphrey Evans (Trawsfynnydd, Meirionydd, Norte de Gales, 1887 - Flechin, Francis, 1917). Poeta.